Ioan 15:18-21
Ioan 15:18-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy’r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf. Tasech chi’n perthyn i’r byd, byddai’r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i’r byd, achos dw i wedi’ch dewis chi allan o’r byd, felly mae’r byd yn eich casáu chi. Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw’n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i’n ddweud wrthyn nhw, byddan nhw’n gwneud beth dych chi’n ei ddweud. Byddan nhw’n eich trin chi felly am eich bod chi’n gweithio i mi. Y gwir ydy, dŷn nhw ddim yn nabod Duw, yr Un sydd wedi fy anfon i.
Ioan 15:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os yw'r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o'ch blaen chwi. Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casáu chwi. Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: ‘Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.’ Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau. Fe wnânt hyn oll i chwi o achos fy enw i, am nad ydynt yn adnabod yr hwn a'm hanfonodd i.
Ioan 15:18-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.