Ioan 14:27-31
Ioan 14:27-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Heddwch – dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i’w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a’r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr. “Dych chi wedi nghlywed i’n dweud, ‘Dw i’n mynd i ffwrdd, a dw i’n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i’n mynd at y Tad, achos mae’r Tad yn fwy na fi. Dw i wedi dweud nawr, cyn i’r peth ddigwydd, er mwyn i chi gredu pan fydd yn digwydd. Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi. Rhaid i’r byd weld fy mod i’n caru’r Tad ac yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud. “Dewch, gadewch i ni fynd.”
Ioan 14:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni. Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, ‘Yr wyf fi yn ymadael â chwi, ac fe ddof atoch chwi.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi. Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd. Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi, ond rhaid i'r byd wybod fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae'r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, ac awn oddi yma.
Ioan 14:27-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.