Ioan 14:18-20
Ioan 14:18-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i’n mynd i ddod yn ôl atoch chi. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi’n fy ngweld i. Am fy mod i’n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi.
Ioan 14:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi. Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd. Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
Ioan 14:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi. Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.