Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 14:15-27

Ioan 14:15-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Os dych chi’n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i’n ddweud. Bydda i’n gofyn i’r Tad, a bydd e’n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi. Dydy’r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi. Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i’n mynd i ddod yn ôl atoch chi. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi’n fy ngweld i. Am fy mod i’n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi. Y rhai sy’n derbyn beth dw i’n ddweud ac yn gwneud hynny ydy’r rhai sy’n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy’n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.” “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i’r byd?” Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy’n fy ngharu i yn gwneud beth dw i’n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni’n dod atyn nhw i fyw gyda nhw. Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i’n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i’n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i. “Dw i wedi dweud y pethau yma tra dw i’n dal gyda chi. Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae’r Tad yn mynd i’w anfon ar fy rhan. Bydd e’n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi’i ddweud. Heddwch – dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i’w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a’r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr.

Ioan 14:15-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd. Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi. Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd. Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.” Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), “Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?” Atebodd Iesu ef: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef. Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i. “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi. Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.

Ioan 14:15-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi. Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.