Ioan 14:15-21
Ioan 14:15-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Os dych chi’n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i’n ddweud. Bydda i’n gofyn i’r Tad, a bydd e’n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi. Dydy’r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi. Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i’n mynd i ddod yn ôl atoch chi. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi’n fy ngweld i. Am fy mod i’n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi. Y rhai sy’n derbyn beth dw i’n ddweud ac yn gwneud hynny ydy’r rhai sy’n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy’n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”
Ioan 14:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd. Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi. Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd. Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.”
Ioan 14:15-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. Ni’ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi. Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.