Ioan 14:11-12
Ioan 14:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.
Ioan 14:11-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Credwch beth dw i’n ddweud – dw i yn y Tad ac mae’r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i’n eu gwneud. Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw’n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad.
Ioan 14:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.