Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 13:21-38

Ioan 13:21-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu’n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.” Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy roedd e’n sôn. Roedd y disgybl oedd Iesu’n ei garu yn eistedd agosaf ato. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu. Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy wyt ti’n sôn?” Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi’i drochi’n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a’i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti’n mynd i’w wneud.” Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu’n ei olygu. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu’n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu’r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi’n nos. Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu, “Mae’n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu, ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi. Os ydy Duw wedi’i anrhydeddu ynof fi, bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo’i hun, ac yn gwneud hynny ar unwaith. “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i’n mynd. “Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” “Ble rwyt ti’n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i’n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.” “Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i’n fodlon marw drosot ti!” Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i’r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di’n fy nabod i!”

Ioan 13:21-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i.” Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sôn. Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd. A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sôn. A dyma'r disgybl hwnnw yn pwyso'n ôl ar fynwes Iesu ac yn gofyn iddo, “Pwy yw ef, Arglwydd?” Atebodd Iesu, “Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef.” Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot. Ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw. Meddai Iesu wrtho, “Yr hyn yr wyt yn ei wneud, brysia i'w gyflawni.” Nid oedd neb o'r cwmni wrth y bwrdd yn deall pam y dywedodd hynny wrtho. Gan mai yng ngofal Jwdas yr oedd y god arian, tybiodd rhai fod Iesu wedi dweud wrtho, “Pryn y pethau y mae arnom eu heisiau at yr ŵyl”, neu am roi rhodd i'r tlodion. Yn union wedi cymryd y tamaid bara aeth Jwdas allan. Yr oedd hi'n nos. Ar ôl i Jwdas fynd allan dywedodd Iesu, “Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef. Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith. Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’ Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd Iesu ef, “Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law.” “Arglwydd,” gofynnodd Pedr iddo, “pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot.” Atebodd Iesu, “A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.

Ioan 13:21-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos. Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd. A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr ar ôl hyn y’m canlyni. Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot. Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.