Ioan 12:44-50
Ioan 12:44-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n cyhoeddi’n uchel, “Mae’r rhai sy’n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw’n gweld yr un sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi dod fel golau i’r byd, fel bod dim rhaid i’r bobl sy’n credu ynof fi aros yn y tywyllwch. “Dim fi sy’n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i’n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio’r byd. Ond bydd pawb sy’n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i’n ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf. Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i’w ddweud, a sut i’w ddweud. A dw i’n gwybod fod beth mae e’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i’n dweud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud wrtho i.”
Ioan 12:44-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyhoeddodd Iesu: “Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i. Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i. Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch. Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd. Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio â derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf. Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf. A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf.”
Ioan 12:44-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.