Ioan 12:20-26
Ioan 12:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid. Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, “Syr, fe hoffem weld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu. A dyma Iesu'n eu hateb. “Y mae'r awr wedi dod,” meddai, “i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth. Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casáu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol. Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.
Ioan 12:20-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg. Dyma nhw’n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu. Ymateb Iesu oedd dweud fel yma: “Mae’r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu. Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau. Bydd y sawl sy’n meddwl am neb ond fe ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy’n rhoi ei hun yn olaf yn y byd yma yn cael bywyd tragwyddol. Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi’n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy’n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.
Ioan 12:20-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu. A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef.