Ioan 12:12-50
Ioan 12:12-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.” (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi’u hysgrifennu amdano, a’u bod nhw wedi digwydd iddo.) Roedd llawer iawn o’r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu’n galw Lasarus allan o’r bedd a dod ag e’n ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd. Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i’w gyfarfod – roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi’i wneud. Dyma’r Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai’r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!” Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg. Dyma nhw’n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu. Ymateb Iesu oedd dweud fel yma: “Mae’r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu. Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau. Bydd y sawl sy’n meddwl am neb ond fe ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy’n rhoi ei hun yn olaf yn y byd yma yn cael bywyd tragwyddol. Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi’n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy’n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu. “Dw i wedi cynhyrfu ar hyn o bryd. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod. Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o’r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i’n gwneud eto.” Roedd rhai o’r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud, “Na, angel oedd yn siarad ag e!” Ond meddai Iesu, “Er eich mwyn chi daeth y llais, dim er fy mwyn i. Mae’r amser wedi dod i’r byd gael ei farnu. Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan. A phan ga i fy nghodi i fyny ar y groes, bydda i’n tynnu pobl o bobman ata i fy hun.” (Dwedodd hyn er mwyn dangos sut oedd yn mynd i farw.) “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai’r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti’n sôn pan wyt ti’n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy’r ‘Mab y Dyn’ yma rwyt ti’n sôn amdano?” Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i’r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy’r rhai sy’n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw’n mynd. Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy’n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu’n mynd i ffwrdd ac yn cadw o’u golwg nhw. Er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o’u blaenau nhw, roedden nhw’n dal i wrthod credu ynddo. Dyma’n union ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai’n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy’r Arglwydd?” Ac mae Eseia’n dweud mewn man arall pam oedd hi’n amhosib iddyn nhw gredu: “Mae’r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw’n gweld a’u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw.” (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e’n siarad.) Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfaddef hynny’n agored am eu bod yn ofni’r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o’r synagog. Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw. Yna dyma Iesu’n cyhoeddi’n uchel, “Mae’r rhai sy’n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw’n gweld yr un sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi dod fel golau i’r byd, fel bod dim rhaid i’r bobl sy’n credu ynof fi aros yn y tywyllwch. “Dim fi sy’n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i’n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio’r byd. Ond bydd pawb sy’n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i’n ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf. Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i’w ddweud, a sut i’w ddweud. A dw i’n gwybod fod beth mae e’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i’n dweud yn union beth mae’r Tad yn ei ddweud wrtho i.”
Ioan 12:12-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r ŵyl fod Iesu'n dod i Jerwsalem. Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel.” Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig: “Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.” Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo. Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny. Dyna pam yr aeth tyrfa'r ŵyl i'w gyfarfod—yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud. Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, “Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei ôl ef.” Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid. Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, “Syr, fe hoffem weld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu. A dyma Iesu'n eu hateb. “Y mae'r awr wedi dod,” meddai, “i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth. Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casáu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol. Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad. “Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? ‘O Dad, gwared fi rhag yr awr hon’? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw.” Yna daeth llais o'r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto.” Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, “Angel sydd wedi llefaru wrtho.” Atebodd Iesu, “Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn. Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun.” Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros. Yna atebodd y dyrfa ef: “Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd. Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch.” Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt. Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngŵydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo. Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?” O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall: “Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld â'u llygaid, a deall â'u meddwl, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.” Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru. Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog. Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw. Cyhoeddodd Iesu: “Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i. Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i. Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch. Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd. Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio â derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf. Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf. A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf.”
Ioan 12:12-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn. Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef. Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl: Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu. A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol. Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun. (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt. Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef. Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw. A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.