Ioan 12:12-15
Ioan 12:12-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.”
Ioan 12:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r ŵyl fod Iesu'n dod i Jerwsalem. Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel.” Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig: “Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.”
Ioan 12:12-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem, A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. A’r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn.