Ioan 11:41-45
Ioan 11:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.” Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo.
Ioan 11:41-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma nhw’n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti’n gwrando arna i bob amser, ond dw i’n dweud hyn er mwyn y bobl sy’n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” A dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. Roedd ei freichiau a’i goesau wedi’u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a’i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu. Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu.
Ioan 11:41-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.