Ioan 11:41-42
Ioan 11:41-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.”
Ioan 11:41-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma nhw’n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti’n gwrando arna i bob amser, ond dw i’n dweud hyn er mwyn y bobl sy’n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
Ioan 11:41-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.