Ioan 11:4-7
Ioan 11:4-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” Roedd Iesu’n hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus. Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
Ioan 11:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
Ioan 11:4-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.