Ioan 11:38-44
Ioan 11:38-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws. “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.” “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?” Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.”
Ioan 11:38-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Iesu’n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi’i gosod dros geg yr ogof.) “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi’i gladdu ers pedwar diwrnod.” Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?” Felly dyma nhw’n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti’n gwrando arna i bob amser, ond dw i’n dweud hyn er mwyn y bobl sy’n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” A dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. Roedd ei freichiau a’i goesau wedi’u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a’i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.
Ioan 11:38-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw? Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.