Ioan 11:21-27
Ioan 11:21-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. Ond er hynny, dw i’n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti’n ei ofyn ganddo.” Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” Atebodd Martha, “Dw i’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?” “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i’n credu mai ti ydy’r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i’r byd.”
Ioan 11:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd.”
Ioan 11:21-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd.