Ioan 11:11-15
Ioan 11:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.” “Arglwydd,” meddai’r disgyblion, “os ydy e’n cysgu, bydd yn gwella.” Ond marwolaeth oedd Iesu’n ei olygu wrth ‘gwsg’. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. Felly dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw’n blaen, “Mae Lasarus wedi marw, ac er eich mwyn chi dw i’n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
Ioan 11:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.” Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.” Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd. Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw. Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.”
Ioan 11:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.