Ioan 11:1-7
Ioan 11:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd dyn o’r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a’i chwaer Martha. (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda’i gwallt, a’i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) Dyma’r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di’n sâl.” Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” Roedd Iesu’n hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus. Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
Ioan 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha. Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael. Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.” Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
Ioan 11:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.