Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11:1-44

Ioan 11:1-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha. Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael. Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.” Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” “Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?” Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn. Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.” Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.” Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.” Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd. Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw. Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.” Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, “Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef.” Pan gyrhaeddodd yno, cafodd Iesu fod Lasarus eisoes yn ei fedd ers pedwar diwrnod. Yr oedd Bethania yn ymyl Jerwsalem, ryw dri chilomedr oddi yno. Ac yr oedd llawer o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i'w cysuro ar golli eu brawd. Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tŷ. Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd.” Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, “Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld.” Pan glywodd Mair hyn, cododd ar frys a mynd ato ef. Nid oedd Iesu wedi dod i mewn i'r pentref eto, ond yr oedd yn dal yn y fan lle'r oedd Martha wedi ei gyfarfod. Pan welodd yr Iddewon, a oedd gyda hi yn y tŷ yn ei chysuro, fod Mair wedi codi ar frys a mynd allan, aethant ar ei hôl gan dybio ei bod hi'n mynd at y bedd, i wylo yno. A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.” Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys. “Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho. Torrodd Iesu i wylo. Yna dywedodd yr Iddewon, “Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.” Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?” Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws. “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.” “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?” Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.”

Ioan 11:1-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd dyn o’r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a’i chwaer Martha. (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda’i gwallt, a’i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) Dyma’r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di’n sâl.” Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” Roedd Iesu’n hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus. Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall. Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?” Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy’n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau’r haul. Ond mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.” Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.” “Arglwydd,” meddai’r disgyblion, “os ydy e’n cysgu, bydd yn gwella.” Ond marwolaeth oedd Iesu’n ei olygu wrth ‘gwsg’. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. Felly dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw’n blaen, “Mae Lasarus wedi marw, ac er eich mwyn chi dw i’n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.” Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‘Yr Efaill’) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!” Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod. Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem, ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd. Pan glywodd Martha fod Iesu’n dod, aeth allan i’w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ. “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. Ond er hynny, dw i’n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti’n ei ofyn ganddo.” Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” Atebodd Martha, “Dw i’n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?” “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i’n credu mai ti ydy’r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i’r byd.” Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae’r Athro yma, ac mae’n gofyn amdanat ti.” Pan glywodd Mair hyn, dyma hi’n codi ar frys i fynd ato. (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi’i gyfarfod.) Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi’n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw’n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi’n mynd at y bedd i alaru. Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a’i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Wrth ei gweld hi’n wylofain yn uchel, a’r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. Gofynnodd, “Ble dych chi wedi’i gladdu?” “Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw. Roedd Iesu yn ei ddagrau. “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai’r bobl oedd yno. Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i’r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?” Roedd Iesu’n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi’i gosod dros geg yr ogof.) “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi’i gladdu ers pedwar diwrnod.” Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?” Felly dyma nhw’n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti’n gwrando arna i bob amser, ond dw i’n dweud hyn er mwyn y bobl sy’n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” A dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. Roedd ei freichiau a’i goesau wedi’u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a’i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.

Ioan 11:1-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn. Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn: Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef. Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef. Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi: A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd. Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat. Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef. (A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.) Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno. Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd; Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl. Yr Iesu a wylodd. Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef. Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith? Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw? Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.