Ioan 11:1-3
Ioan 11:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd dyn o’r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a’i chwaer Martha. (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda’i gwallt, a’i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.) Dyma’r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di’n sâl.”
Ioan 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha. Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael. Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.”
Ioan 11:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.