Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 10:7-18

Ioan 10:7-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy’r giât i’r defaid fynd drwyddi. Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o mlaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw. Fi ydy’r giât. Bydd y rhai sy’n mynd i mewn trwof fi yn saff. Byddan nhw’n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa. Mae’r lleidr yn dod gyda’r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau. “Fi ydy’r bugail da. Mae’r bugail da yn fodlon marw dros y defaid. Mae’r gwas sy’n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae’n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy’r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae’n gadael y defaid, ac mae’r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw. Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae’n edrych ar ôl y defaid, a dydy e’n poeni dim amdanyn nhw go iawn. “Fi ydy’r bugail da. Dw i’n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw’n fy nabod i – yn union fel mae’r Tad yn fy nabod i a dw i’n nabod y Tad. Dw i’n fodlon marw dros y defaid. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw’n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw’n dod yn un praidd, a bydd un bugail. Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw’n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn. Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy’n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i’r gallu i’w roi a’r gallu i’w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i’w wneud.”

Ioan 10:7-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.