Ioan 10:40-42
Ioan 10:40-42 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Aeth Iesu yn ôl ar draws afon Iorddonen eto i’r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd yno a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw’n dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn yma yn wir.” A daeth llawer o bobl yno i gredu yn Iesu.
Ioan 10:40-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i'r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno. Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir.” A daeth llawer i gredu ynddo yn y lle hwnnw.
Ioan 10:40-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno. A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. A llawer yno a gredasant ynddo.