Ioan 10:4-6
Ioan 10:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae’n cerdded o’u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais. Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dŷn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw’n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.” Defnyddiodd Iesu’r stori yna fel darlun, ond doedden nhw ddim yn deall yr ystyr.
Ioan 10:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.” Dywedodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.
Ioan 10:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.