Ioan 10:2-5
Ioan 10:2-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r bugail sy’n gofalu am y defaid yn mynd i mewn drwy’r giât. Mae’r un sy’n gwylio’r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae’n galw pob un o’i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan. Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae’n cerdded o’u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais. Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dŷn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw’n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”
Ioan 10:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid. Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan. Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.”
Ioan 10:2-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.