Ioan 10:11-21
Ioan 10:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i, yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.” Bu ymraniad eto ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn. Yr oedd llawer ohonynt yn dweud, “Y mae cythraul ynddo, y mae'n wallgof. Pam yr ydych yn gwrando arno?” Ond yr oedd eraill yn dweud, “Nid geiriau dyn â chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?”
Ioan 10:11-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Fi ydy’r bugail da. Mae’r bugail da yn fodlon marw dros y defaid. Mae’r gwas sy’n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae’n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy’r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae’n gadael y defaid, ac mae’r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw. Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae’n edrych ar ôl y defaid, a dydy e’n poeni dim amdanyn nhw go iawn. “Fi ydy’r bugail da. Dw i’n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw’n fy nabod i – yn union fel mae’r Tad yn fy nabod i a dw i’n nabod y Tad. Dw i’n fodlon marw dros y defaid. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw’n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw’n dod yn un praidd, a bydd un bugail. Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw’n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn. Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy’n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i’r gallu i’w roi a’r gallu i’w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i’w wneud.” Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau ymhlith yr Iddewon eto. Roedd llawer ohonyn nhw’n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae’n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?” Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi’i feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”
Ioan 10:11-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad. Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?