Ioan 1:35-39
Ioan 1:35-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Ioan yno eto’r diwrnod wedyn gyda dau o’i ddisgyblion. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai, “Edrychwch! Oen Duw!” Dyma’r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu. Trodd Iesu a’u gweld nhw’n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?” “Rabbi” medden nhw, “ble wyt ti’n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‘Rabbi’ ydy ‘Athro’.) Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.” Felly dyma nhw’n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o’r gloch y p’nawn erbyn hynny.
Ioan 1:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion, ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!” Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu. Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?” Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.
Ioan 1:35-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion: A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw. A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo? Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.