Ioan 1:32-33
Ioan 1:32-33 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o’r nefoedd fel colomen ac yn aros arno. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di’r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna’r un fydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.’
Ioan 1:32-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’
Ioan 1:32-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.