Ioan 1:29-36
Ioan 1:29-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd! Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.” A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn.” Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion, ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!”
Ioan 1:29-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i’w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd. Dyma’r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy’n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e’n bodoli o mlaen i.’ Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.” Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o’r nefoedd fel colomen ac yn aros arno. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di’r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna’r un fydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.’ A dyna welais i’n digwydd! Dw i’n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.” Roedd Ioan yno eto’r diwrnod wedyn gyda dau o’i ddisgyblion. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai, “Edrychwch! Oen Duw!”
Ioan 1:29-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd. Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân. A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw. Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion: A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw.