Ioan 1:14-17
Ioan 1:14-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol – ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd. Dyma’r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma’r un ddwedais i amdano, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e’n bodoli o’m blaen i.’” Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle’r llall – a hynny i bob un ohonon ni! Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a’i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia.
Ioan 1:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: “Hwn oedd yr un y dywedais amdano, ‘Y mae'r hwn sy'n dod ar f'ôl i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ ” O'i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras. Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant.
Ioan 1:14-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd. Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.