Ioan 1:11-13
Ioan 1:11-13 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Daeth i’w wlad ei hun, a chael ei wrthod gan ei bobl ei hun. Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy’n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw. Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma); Duw sydd wedi’u gwneud nhw’n blant iddo’i hun!
Ioan 1:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.
Ioan 1:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.