Ioan 1:10-14
Ioan 1:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono. Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.
Ioan 1:10-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y Gair yn y byd, ac er mai fe greodd y byd, wnaeth pobl y byd mo’i nabod. Daeth i’w wlad ei hun, a chael ei wrthod gan ei bobl ei hun. Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy’n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw. Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma); Duw sydd wedi’u gwneud nhw’n blant iddo’i hun! Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol – ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd.
Ioan 1:10-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.