Ioan 1:1-9
Ioan 1:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl. Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. Daeth dyn o’r enw Ioan i’r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy’r hyn oedd yn ei ddweud. Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e’n ei wneud. Roedd y golau go iawn, sy’n rhoi golau i bawb, ar fin dod i’r byd.
Ioan 1:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
Ioan 1:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred. Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.