Jeremeia 9:23-24
Jeremeia 9:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ddylai pobl glyfar ddim brolio’u clyfrwch, na’r pwerus eu bod nhw’n bobl bwerus; a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio’u cyfoeth. Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano: eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deall mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n llawn cariad, yn deg, ac yn gwneud beth sy’n iawn ar y ddaear. A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Jeremeia 9:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth. “Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 9:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr ARGLWYDD.