Jeremeia 52:31-34
Jeremeia 52:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, ffafr â Jehoiachin brenin Jwda, a'i ddwyn allan o'r carchar, a dweud yn deg wrtho, a pheri iddo eistedd ar sedd uwch na seddau'r brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon. Felly diosgodd ei ddillad carchar, a bu'n westai i'r brenin weddill ei ddyddiau. Ei gynhaliaeth oedd y dogn dyddiol a roddid iddo gan frenin Babilon, yn ôl gofyn pob dydd, holl ddyddiau ei einioes hyd ddydd ei farw.
Jeremeia 52:31-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o’r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o’r carchar. Buodd yn garedig ato, a’i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o’r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. Felly dyma Jehoiachin yn newid o’i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta’n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.
Jeremeia 52:31-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy; Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon. Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes. Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.