Jeremeia 4:3-4
Jeremeia 4:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, bobl Jwda a Jerwsalem: “Rhaid i chi drin y tir caled, a pheidio hau had da yng nghanol drain; rhoi eich hunain yn llwyr i’r ARGLWYDD, newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Os na wnewch chi, bydda i’n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi’i wneud.”
Jeremeia 4:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem: “Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain. Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, rhag i'm digofaint ddod allan fel tân a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”
Jeremeia 4:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerwsalem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. Ymenwaedwch i’r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.