Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 32:26-44

Jeremeia 32:26-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi? Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd. A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dân, a'i llosgi ynghyd â'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i. Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio â gwaith eu dwylo,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd, o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers. Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi. Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’ “Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint: ‘Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel. Byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. A rhof iddynt un meddwl ac un ffordd, i'm hofni bob amser, er lles iddynt ac i'w plant ar eu hôl. Gwnaf â hwy gyfamod tragwyddol, ac ni throf ef ymaith oddi wrthynt, ond gwneud yn dda iddynt; rhof fy ofn yn eu calon, rhag iddynt gilio oddi wrthyf. Fy llawenydd fydd gwneud yn dda iddynt; yn wir â'm holl galon ac â'm holl enaid fe'u plannaf yn y tir hwn.’ “Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Megis y dygais ar y bobl hyn yr holl ddrwg mawr hwn, felly y dygaf arnynt yr holl ddaioni a addawaf iddynt. Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, “Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid.” Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,’ medd yr ARGLWYDD.”

Jeremeia 32:26-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn ateb Jeremeia: “Yr ARGLWYDD ydw i, Duw’r ddynoliaeth gyfan. Mae’n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud. Felly, dyma dw i’n ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i roi’r ddinas yma yn nwylo’r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro. Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i’r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi’n ulw. Bydd y tai lle buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna’n fy ngwylltio i. Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o’r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi’u cerfio,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Mae’r ddinas yma wedi fy ngwylltio i’n lân o’r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi. Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio’n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a’u brenhinoedd a’u swyddogion, yr offeiriaid a’r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy’n byw yn Jerwsalem! Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio’u dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw’n gwrthod gwrando a chael eu cywiro. Maen nhw’n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw’n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’ “‘Mae’r rhyfel, a’r newyn a haint yn mynd i arwain at roi’r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma: ‘Dw i’n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o’r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw. Rôn i wedi gwylltio’n lân hefo nhw. Rôn i’n ffyrnig! Ond dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl i’r lle yma, a byddan nhw’n cael byw yma yn hollol saff. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny’n dda iddyn nhw a’u plant ar eu holau. Bydda i’n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i’n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto. Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i’n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i’n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’ “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i’n dod â’r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â’r holl bethau da dw i’n ei addo iddyn nhw.’ ‘Ond mae’r wlad yma’n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma. Mae’r wlad wedi’i choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto. Bydd caeau yn cael eu prynu a’u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a’u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a’r Negef yn y de. Bydda i’n rhoi’r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai’r ARGLWYDD.

Jeremeia 32:26-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, Wele, myfi yw yr ARGLWYDD, DUW pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi? Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod-offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i. Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr ARGLWYDD. Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem. Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau: Eithr gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd-dra hyn, i beri i Jwda bechu. Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint; Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau. A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl. A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf. Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, â’m holl galon, ac â’m holl enaid. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn, felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi. Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD.