Jeremeia 31:13-14
Jeremeia 31:13-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio’n llawen, a’r bechgyn ifanc a’r dynion hŷn yn dathlu gyda’i gilydd. Bydda i’n troi eu galar yn llawenydd. Bydda i’n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch. Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau, a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da, –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Jeremeia 31:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns, a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd; trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy; gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid. Diwallaf yr offeiriaid â braster, a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 31:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch. A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr ARGLWYDD.