Jeremeia 18:7-10
Jeremeia 18:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas. Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas, ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.
Jeremeia 18:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Galla i ddweud un funud fy mod i’n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig. Ond os ydy pobl y wlad dw i’n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud. Dro arall bydda i’n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a’i gwneud hi’n sefydlog. Ond os ydy pobl y wlad honno’n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
Jeremeia 18:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth; Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth; Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni â’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.