Jeremeia 18:1-7
Jeremeia 18:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: “Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.” Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell. A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf, “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.
Jeremeia 18:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia: “Dos i lawr i weithdy’r crochenydd, a bydda i’n siarad gyda ti yno.” Felly dyma fi’n mynd i lawr i’r crochendy, a dyna lle roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. Pan oedd rhywbeth o’i le ar y potyn roedd yn ei wneud o’r clai, byddai’n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn. A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi: “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae’r clai yn nwylo’r crochenydd. Galla i ddweud un funud fy mod i’n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.
Jeremeia 18:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau. Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr ARGLWYDD. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel. Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth