Jeremeia 18:1-6
Jeremeia 18:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia: “Dos i lawr i weithdy’r crochenydd, a bydda i’n siarad gyda ti yno.” Felly dyma fi’n mynd i lawr i’r crochendy, a dyna lle roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. Pan oedd rhywbeth o’i le ar y potyn roedd yn ei wneud o’r clai, byddai’n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn. A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi: “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae’r clai yn nwylo’r crochenydd.
Jeremeia 18:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: “Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.” Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell. A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf, “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.
Jeremeia 18:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau. Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr ARGLWYDD. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.