Jeremeia 14:7-9
Jeremeia 14:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“O ARGLWYDD, er bod ein pechodau yn tystio yn ein herbyn, gwna rywbeth i’n helpu ni er mwyn dy enw da. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti lawer gwaith, ac wedi pechu yn dy erbyn di. Ti ydy unig obaith Israel – ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl. Pam wyt ti fel estron yn y wlad? Pam wyt ti fel teithiwr sydd ddim ond yn aros am noson? Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan, neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy? Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD. Dŷn ni’n cael ein nabod fel dy bobl di. Paid troi dy gefn arnon ni!”
Jeremeia 14:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn, O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw. Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn. Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd, pam y byddi fel dieithryn yn y tir, fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson? Pam y byddi fel un mewn syndod, fel un cryf yn methu achub? Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD; dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”
Jeremeia 14:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn. Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith? Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.