Jeremeia 13:16
Jeremeia 13:16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhowch i’r ARGLWYDD eich Duw y parch mae’n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i’r golau dych chi’n chwilio amdano droi’n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
Rhanna
Darllen Jeremeia 13Jeremeia 13:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu.
Rhanna
Darllen Jeremeia 13Jeremeia 13:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich DUW, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.
Rhanna
Darllen Jeremeia 13