Jeremeia 12:1-4
Jeremeia 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi; er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen: Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr? Plennaist hwy, a gwreiddiasant; tyfant a dwyn ffrwyth. Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon. Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld, ac yn profi fy meddyliau tuag atat. Didola hwy fel defaid i'r lladdfa, a'u corlannu erbyn diwrnod lladd. Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”
Jeremeia 12:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ARGLWYDD, ti sydd bob amser yn iawn pan dw i’n cwyno am rywbeth. Ond mae’n rhaid i mi ofyn hyn: Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo? Pam mae’r rhai sy’n twyllo yn cael bywyd mor hawdd? Ti’n eu plannu nhw fel coed, ac maen nhw’n bwrw gwreiddiau. Maen nhw’n tyfu ac yn dwyn ffrwyth. Maen nhw’n siarad amdanat ti drwy’r amser, ond ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn. Ond rwyt ti’n fy nabod i, ARGLWYDD. Ti’n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti. Llusga’r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd; cadw nhw o’r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa. Am faint mae’n rhaid i’r sychder aros, a glaswellt y caeau fod wedi gwywo? Mae’r anifeiliaid a’r adar wedi diflannu o’r tir am fod y bobl sy’n byw yma mor ddrwg, ac am eu bod nhw’n dweud, “Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni’n ei wneud.”
Jeremeia 12:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll? Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau. Ond ti, ARGLWYDD, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa. Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.