Jeremeia 11:8
Jeremeia 11:8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i’n ddweud na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw’n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi’u cosbi nhw, yn union fel roedd amodau’r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i’n ddweud.’”
Rhanna
Darllen Jeremeia 11Jeremeia 11:8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ”
Rhanna
Darllen Jeremeia 11Jeremeia 11:8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.
Rhanna
Darllen Jeremeia 11