Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 11:1-17

Jeremeia 11:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Atgoffa bobl Jwda a’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem o amodau’r ymrwymiad wnes i gydag Israel. Dwed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy’n diystyru amodau’r ymrwymiad. Pan ddes i â’ch hynafiaid chi allan o’r Aifft, o’r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw’r amodau dw i’n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi’n bobl i mi, a bydda i’n Dduw i chi.” Wedyn roeddwn i’n gallu rhoi beth wnes i ei addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna’r wlad lle dych chi’n byw heddiw.’” A dyma fi’n ateb, “Amen! Mae’n wir, ARGLWYDD!” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda’r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau’r ymrwymiad rhyngon ni, a’u cadw nhw. Rôn i wedi rhybuddio’ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o’r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i’ch cael chi i wrando arna i. Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i’n ddweud na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw’n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi’u cosbi nhw, yn union fel roedd amodau’r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i’n ddweud.’” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i. Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda’u hynafiaid nhw. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw’n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw. Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o’u trafferthion! A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i’r duw ffiaidd yna, Baal!’ “A ti, Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i’w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw’n gweiddi am help o ganol eu trafferthion. Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i’m teml ar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll? Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â’r drygioni? Fyddwch chi’n gallu bod yn hapus wedyn? Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw di yn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni. Ond mae storm fawr ar y ffordd: dw i’n mynd i dy roi di ar dân, a byddi’n llosgi yn y fflamau gwyllt. Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae’n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a’m gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”

Jeremeia 11:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: “Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn, a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, “Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi.” Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.’ ” Atebais innau, “Amen, ARGLWYDD.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, ‘Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud. Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, “Gwrandewch arnaf.” Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem. Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf. Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd. Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.” “Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.” “Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ, a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler? A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio, fel y gelli lawenychu? Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di; ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi, ac ysir ei changau.” “ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tŷ Israel a thŷ Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal.”

Jeremeia 11:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem; Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn, Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau: Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O ARGLWYDD, felly y byddo. Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt. Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais. Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem. Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt. Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd. Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal. Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd. Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit. Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr ARGLWYDD dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a’i changhennau a dorrwyd. Canys ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.