Barnwyr 9:50-57
Barnwyr 9:50-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aeth Abimelech i Thebes a gwersyllu yn ei herbyn a'i hennill. Yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y dref, a ffodd y gwŷr a'r gwragedd i gyd yno, a holl benaethiaid y dref, a chloi arnynt ac esgyn i do'r tŵr. Daeth Abimelech at y tŵr, ac ymladd yn ei erbyn; ac wrth iddo agosáu at fynediad y tŵr i'w losgi, taflodd rhyw wraig faen melin i lawr ar ben Abimelech a dryllio'i benglog. Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, “Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd.” Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw. Pan welodd yr Israeliaid fod Abimelech wedi marw, aeth pawb adref. Felly y talodd Duw i Abimelech am y drygioni a wnaeth i'w dad trwy ladd ei ddeg brawd a thrigain. Hefyd talodd Duw yn ôl holl ddrygioni pobl Sichem, a disgynnodd arnynt felltith Jotham fab Jerwbbaal.
Barnwyr 9:50-57 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a’i choncro. Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref, a dyma’r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i’r tŵr a chloi’r drws. Yna dyma nhw’n dringo i ben to’r tŵr. Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi’r fynedfa ar dân, dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a chracio’i benglog. Galwodd ar y dyn ifanc oedd yn cario’i arfau, “Tyn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma’r dyn ifanc yn ei drywanu gyda’i gleddyf, a bu farw. Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw, dyma nhw i gyd yn mynd adre. Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu’i dad drwy ladd ei saith deg hanner brawd. A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.
Barnwyr 9:50-57 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a’i henillodd hi. Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaeasant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr. Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i’w losgi ef â thân. A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef. Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i lanc a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw. A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre. Felly y talodd DUW ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain. A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd DUW ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy.