Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 9:1-21

Barnwyr 9:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Aeth Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd, “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i’n perthyn drwy waed i chi.’” Felly dyma’i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw’n tueddu i’w gefnogi am ei fod yn perthyn drwy waed iddyn nhw. Dyma nhw’n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A defnyddiodd Abimelech yr arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i’w ddilyn. Aeth yn ôl i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio. Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin. Pan glywodd Jotham am hyn, dyma fe’n dringo i gopa Mynydd Gerisim a gweiddi’n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem – os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi. Aeth y coed allan i ddewis brenin. A dyma nhw’n dweud wrth y goeden olewydd, ‘Bydd yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y goeden olewydd, ‘Ydw i’n mynd i stopio cynhyrchu olew, sy’n bendithio Duw a dynion, er mwyn chwifio’n uwch na’r coed eraill?’ Felly dyma’r coed yn dweud wrth y goeden ffigys, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y goeden ffigys, ‘Ydw i’n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys, fy ffrwyth hyfryd, er mwyn chwifio’n uwch na’r coed eraill?’ Felly dyma’r coed yn dweud wrth y winwydden, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y winwydden, ‘Ydw i’n mynd i stopio cynhyrchu gwin, sy’n gwneud duwiau a dynion yn hapus, er mwyn chwifio’n uwch na’r coed eraill?’ Felly dyma’r coed yn dweud wrth berth o ddrain, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ A dyma’r berth ddrain yn ateb, ‘Os ydych chi wir eisiau fi’n frenin, dewch i gysgodi oddi tanaf fi. Os na wnewch chi, bydda i’n cynnau tân fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’ “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro’i fywyd i’ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi’n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a’i deulu? Naddo! Dych chi wedi’i fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg. A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi. Os ydych chi wedi trin Gideon a’i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi’n hapus, ac i chi ei wneud e’n hapus. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi, arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!” Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.

Barnwyr 9:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aeth Abimelech fab Jerwbbaal i Sichem at frodyr ei fam, a dweud wrthynt hwy ac wrth holl dylwyth ei fam, “Yr wyf am i chwi ofyn i holl benaethiaid Sichem, ‘Prun sydd orau gennych, cael eich llywodraethu gan yr holl ddeg a thrigain o feibion Jerwbbaal, ynteu cael eich llywodraethu gan un dyn? Cofiwch hefyd fy mod i o'r un asgwrn a chnawd â chwi.’ ” Fe siaradodd brodyr ei fam amdano yng nghlyw holl benaethiaid Sichem, a dweud yr holl bethau hyn, ac yr oedd eu calon yn tueddu tuag at Abimelech am eu bod yn meddwl, “Y mae'n frawd i ni.” Rhoesant iddo ddeg a thrigain o ddarnau arian o deml Baal-berith, ac â hwy fe gyflogodd Abimelech ddynion ofer a gwyllt i'w ddilyn. Aeth i dŷ ei dad yn Offra, a lladd ar yr un maen bob un o'i frodyr, sef deng mab a thrigain Jerwbbaal. Ond arbedwyd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am iddo ymguddio. Yna daeth holl benaethiaid Sichem a phawb o Beth-milo ynghyd, a mynd a gwneud Abimelech yn frenin, ger y dderwen a osodwyd i fyny yn Sichem. Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau. Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin. Dywedasant wrth yr olewydden, ‘Bydd di yn frenin arnom.’ Ond atebodd yr olewydden, ‘A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ Ond atebodd y winwydden, ‘A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?’ Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’ Ac meddai'r fiaren wrth y coed, ‘Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tân allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.’ “Yn awr, a ydych wedi gweithredu'n onest a chydwybodol wrth wneud Abimelech yn frenin? A ydych wedi delio'n deg â Jerwbbaal a'i deulu? Ai'r hyn a haeddai a wnaethoch iddo? Oherwydd brwydrodd fy nhad drosoch, a mentro'i einioes a'ch achub o law Midian; ond heddiw yr ydych wedi codi yn erbyn tŷ fy nhad a lladd ei feibion, deg a thrigain o wŷr, ar un maen. Yr ydych wedi gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar benaethiaid Sichem, am ei fod yn frawd i chwi. Os ydych wedi delio'n onest a chydwybodol â Jerwbbaal a'i deulu heddiw, llawenhewch yn Abimelech, a bydded iddo yntau lawenhau ynoch chwi. Onid e, aed tân allan o Abimelech a difa penaethiaid Sichem a Beth-milo; hefyd aed tân allan o benaethiaid Sichem a Beth-milo a difa Abimelech.” Yna ciliodd Jotham, a ffoi i Beer ac aros yno, o gyrraedd ei frawd Abimelech.

Barnwyr 9:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd, Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi. A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe. A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef. Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai. A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem. A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo DUW arnoch chwithau. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m braster, â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m melystra, ac â’m ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill? Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni. A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau DUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus. Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â’i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo: (Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian: A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:) Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â’i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau: Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech. A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.