Barnwyr 4:8-16
Barnwyr 4:8-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.” “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di, fyddi di’n cael dim o’r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd. Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn drwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Tsa-ananîm, heb fod yn bell o Cedesh. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor, dyma yntau’n galw’r fyddin gyfan oedd ganddo yn Charoseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda’r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at afon Cison. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd â ti! Heddiw, mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae’r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth, ac yn arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor. A gwnaeth yr ARGLWYDD i Sisera a’i holl gerbydau a’i fyddin banicio. Dyma Barac a’i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd a cheisio dianc ar droed.) Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Charoseth-hagoïm, a chafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw.
Barnwyr 4:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd Barac wrthi, “Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af.” Meddai hithau, “Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera.” Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes. Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei ôl; aeth Debora hefyd gydag ef. Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled â'r dderwen yn Saanannim ger Cedes. Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor, galwodd Sisera ei holl gerbydau—naw cant o gerbydau haearn—a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison. Yna dywedodd Debora wrth Barac, “Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?” Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wŷr ar ei ôl. Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chwâl o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed. Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled â Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.
Barnwyr 4:8-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af. A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes. A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef. A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes. A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor. A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison. A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl. A’r ARGLWYDD a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed. Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt.