Barnwyr 4:6-7
Barnwyr 4:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma hi’n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel. Bydda i’n arwain Sisera, cadfridog byddin y Brenin Jabin, atat ti at afon Cison. Bydd yn dod yno gyda’i gerbydau rhyfel a’i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.”
Barnwyr 4:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, “Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi. Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law.”
Barnwyr 4:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes-nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon? A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i liaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di.