Barnwyr 4:17-24
Barnwyr 4:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead. Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, “Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni.” Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto. Gofynnodd iddi am lymaid o ddŵr i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto. Dywedodd wrthi, “Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, ‘Nac oes’.” Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar ôl ei ludded, a bu farw. Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, “Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano.” Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais. Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid. Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.
Barnwyr 4:17-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y cyfamser, roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch â llwyth Heber.) Aeth Jael allan i’w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly, aeth Sisera i mewn i’r babell, a dyma Jael yn rhoi blanced drosto. Dyma fe’n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i’n marw o syched.” A dyma hi’n agor potel groen gafr o laeth a rhoi diod iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto. “Dos i sefyll wrth fynedfa’r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell, dywed ‘Na’ wrthyn nhw.” Roedd Sisera wedi llwyr ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu’n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera’n dawel bach. Yna dyma hi’n bwrw’r peg drwy ochr ei ben i’r ddaear, a’i ladd. Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd, dyma Jael yn mynd allan i’w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti’r dyn ti’n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i’r babell gyda hi, a dyna lle roedd Sisera’n gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi’i fwrw drwy ei ben. Y diwrnod hwnnw, roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu’r Brenin Jabin o Canaan. Ac o hynny ymlaen, dyma’r Israeliaid yn taro’r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi’i ddinistrio’n llwyr.
Barnwyr 4:17-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead. A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. Felly y darostyngodd DUW y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel. A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.